Un o'e cŵn sydd ar goll
Mae heddlu Caerdydd yn apelio am wybodaeth ar ôl i dri chi ddiflannu yn dilyn lladrad yn y Rhath.

Roedd drws y cefn wedi ei orfodi ar agor a tri alsatian, gan gynnwys dau gi bach, wedi diflannu o’r adeilad.

Mae’r heddlu wedi bod yn cydweithio â’r RSPCA er mwyn ceisio dod o hyd i’r cwn ers cael gwybod am y lladrad yn Mackintosh Place ar 13 Mai.

“Roedd gwaed yn yr adeilad ond ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gwybod a yw’n waed dynol neu yn waed ci,” meddai.

“Felly mae’n amhosib bod yn siŵr a yw’r cwn wedi dianc, wedi eu dwyn, neu wedi eu hanafu o ganlyniad i’r lladrad.

“Rydyn ni wedi holi cymdogion ond hoffwn ni gael gwybod gan y gymuned ehangach os oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth fyddai o gymorth.”

Dylai unrhyw un sydd gyda gwybodaeth ffonio Heddlu Caerdydd ar 029 2052 7267 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.