Alun Ffred Jones
Mae’r cyn-Weinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i rannu ei hen adran ymysg aelodau’r cabinet.

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio Huw Lewis, hefyd yn cymryd cyfrifoldeb dros Dreftadaeth, a’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yn gwarchod yr iaith Gymraeg.

“Dydw i ddim yn credu bod y trefniant newydd yn un sydd yn gwneud llawer iawn o synnwyr,” meddai Alun Ffred Jones.

“Roeddwn i’n teimlo bod y cyfuniad oedd gen i dan fy ngofal wedi dod at ei gilydd yn weddol dda.

“Yn ystod fy nghyfnod i fe fues i yn pwyso yn daer ar y gwahanol elfennau o fewn yr adran i weithio gyda’i gilydd oherwydd bod y berthynas mor ddeinamig rhwng y diwydiant ymwelwyr, amgueddfeydd, a’r holl faes treftadaeth gan gynnwys yr iaith Gymraeg.

“Mi ddechreuodd hynny weithio dwi’n credu.”

Y Gymraeg

Dywedodd ei fod yn deall pam fod y Llywodraeth newydd wedi penderfynu cyfuno addysg â’r iaith Gymraeg ond fod datblygu’r iaith yn mynd y tu hwnt i fyd addysg yn unig.

“ Mae’n weddol amlwg fod yna fanteision yn hynny o beth oherwydd bod datblygiad addysg Gymraeg yn hanfodol i dwf yr iaith,” meddai.

“Ond dyw dysgu Cymraeg mewn ysgol, hyd yn oed os ydach chi yn dysgu fo yn dda mewn ysgol gyfrwng Gymraeg, ddim yn ddigon i droi pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg.

“Os ydach chi’n ystyried y Gymraeg  yn rhan o’r maes addysg yn unig rydach chi wedi colli’r plot.

“Mae holl strategaeth yr iaith Gymraeg a fabwysiadwyd ddiwedd tymor Cymru’n Un yn cyfeirio at yr angen i fynd a’r Gymraeg allan i’r gymuned a’i ddefnyddio mewn sefyllfaoedd anffurfiol a hefyd at y ffaith bod ni angen gweld canolfannau twf y Gymraeg ac ardaloedd twf Cymraeg sy’n mynd a ni ymhell y tu allan i’r maes addysg.

“Mae gan adran fawr fel addysg gymaint o faterion sydd yn pwyso ar y Gweinidog. A fydd y Gymraeg yn cael y sylw y mae’n ei haeddu? A fydd hi yn cael sylw y tu allan i faes addysg? Dyna’r her i’r Gweinidog.”

Yr arweinyddiaeth

Dywedodd Alun Ffred Jones na fyddai’n diystyru olynu Ieuan Wyn Jones yn arweinydd y blaid, ond awgrymodd ei fod yn gyfle i rywun iau gymryd yr awenau.

“Dyw hi ddim yn beth doeth dweud ‘byth’, ond fy marn bersonol i yw, os ydi Ieuan yn camu o’r neilltu, dydw i ddim yn siŵr a ddylai rhywun o’r un genhedlaeth fod yn cymryd yr awenau,” meddai.