Ryan Giggs
Mae ffrae gyfreithiol yn datblygu rhwng Senedd San Steffan, y farnwriaeth, a’r cyfryngau dros fater enwi Ryan Giggs.

Ddoe datgelodd Aelod Seneddol mai Ryan Giggs oedd y pêl-droediwr priod oedd wedi cael gorchymyn llys fel nad yw’r cyfryngau yn cael datgelu manylion am ei fywyd preifat.

Defnyddiodd yr AS John Hemming ei fraint seneddol i enwi’r seren oedd wedi gofyn am orchymyn i wahardd unrhyw honiadau ei fod wedi cael perthynas â’r Gymraes Imogen Thomas.

Ond hyd yn oed ar ôl i’r Prif Weinidog, David Cameron, ddweud ei fod o “fel pawb arall” yn gwybod enw’r chwaraewr, penderfynodd yr Uchel Lys wrthod dau gynnig gan gyfreithwyr y Sun i ddiddymu’r gorchymyn.

“Mae tua 75,000 o bobol wedi enwi Ryan Giggs ar Twitter, ac mae’n amlwg yn anymarferol carcharu pawb,” meddai John Hemming yn Nhŷ’r Cyffredin.

Yn gynharach dywedodd David Cameron wrth raglen Daybreak ITV1 fod gwahardd papurau newydd rhag cyhoeddi ffeithiau oedd yn wybodus i bawb yn “annheg” ac yn “anghynaladwy”.

“Rydw i eisoes wedi dweud mai’r perygl yw bod dyfarniadau yn ysgrifennu cyfreithiau newydd, a dyna swyddogaeth y senedd,” meddai.

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, John Whittingdale, fod perygl y bydd y gyfraith yn edrych “yn wirion”.

“Byddai’n rhaid i rywun fod yn byw mewn iglw i beidio â gwybod hunaniaeth o leiaf un seren pêl-droed sydd wedi cael gafael ar orchymyn llys,” meddai.