Fferm Wynt
Mae disgwyl y bydd cymaint â 1,500 o ymgyrchwyr yn protestio yn erbyn cynlluniau dadleuol i godi fferm wynt a pheilonau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru heddiw.

Mae Llywodraeth y Cynulliad o blaid codi 10 fferm wynt yn y canolbarth a symud yr egni i Loegr drwy ddegau o beilonau sydd dros gan droedfedd o uchder.

Ond mae’r protestwyr yn teimlo y bydd y cynllun yn hagru rhannau o Geredigion a Phowys ac yn bwriadu ymgynnull ger Canolfan y Mileniwm cyn gorymdeithio i gyfeiriad y Senedd.

Mae pedwar o’r protestwyr wedi bod yn cerdded ar daith chwe diwrnod o’r Trallwng yng ngogledd Powys  i Fae Caerdydd er mwyn gwrthwynebu’r cynlluniau.

Fe fydd gwleidyddion o bob un o’r pleidiau yn annerch y dorf yn y Cynulliad. Yr Aelod Seneddol, Glyn Davies, sydd wedi trefnu’r digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod nhw’n “benderfynol o weld Cymru yn torri ei allyriadau carbon a defnyddio rhagor o egni adnewyddadwy”.

Roedd “nifer fechan o ffermydd gwynt wedi clystyru mewn rhai mannau yn well na nifer fawr o ffermydd gwynt llai ar draws Cymru,” medden nhw.

Yn 2005 datgelodd y Llywodraeth saith ardal ar draws Cymru oedd wedi eu clustnodi ar gyfer ffermydd gwynt.

Y nod oedd bodd 10% o egni Cymru yn dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2010, ond erbyn hyn mae’r wlad yn cynhyrchu tua 13% o’r ffynonellau hyn.