Cyngor Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio cynllun benthyciadau gwerth £3 miliwn i gefnogi cwmnïau yn y sir.
Maen nhw’n credu mai dyma’r gronfa gynta’ o’i bath yng Nghymru ar gyfer busnesau bach a chanolig.
Mae’n cynnig benthyciadau o rhwng £25,000 hyd £100,000 gyda’r cyfle i fenthyg symiau mwy os bydd digon o sicrwydd.
Y nod yw helpu busnesau sy’n ei chael hi’n anodd i gael benthyciadau gan y banciau, meddai arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards.
Yn ystod y dyddiau diwetha’, mae’r banciau mawr wedi cael eu beirniadu am beidio â chyrraedd targedau’r Llywodraeth o ran benthyg i fusnesau.
Benthyciadau’n ‘broblem’
Yn ôl y Cyngor, mae ymchwil ganddyn nhwthau wedi dangos bod cael gafael ar fenthyciadau’n broblem.
“Mae ein cwmnïau bach a chanolig yn allweddol i economi Gwynedd,” meddai wrth gyhoeddi’r manylion am y gronfa yn ystod Wythnos Busnesau Gwynedd.
“Wrth feddwl yn greadigol ac ymateb i’r hyn y mae cwmnïau lleol wedi ei ddweud wrthon ni, mae Cyngor Gwynedd yn anelu at ddarparu’r union gefnogaeth y mae ein busnesau ei hangen.”