Leighton Andrews - dim cynghreiriau
Mae Gweinidog Addysg Cymru’n dal i fynnu ei fod yn bendant yn erbyn cyhoeddi cynghreiriau o berfformiad ysgolion y wlad.
Ar ôl i BBC Cymru gyhoeddi tabl o un elfen o berfformiad ysgolion uwchradd, fe ddywedodd Leighton Andrews nad cynghreiriau oedd yr ateb.
Maen nhw’n gallu achosi cynnen, meddai, yn gallu bod yn gamarweiniol a thydyn nhw ddim yn ddigon ynddyn eu hunain i “ysgogi gwelliant”.
Fe ddaeth sylwadau Leighton Andrews mewn datganiad ysgrifenedig i’r Cynulliad gan gyhuddo’r BBC o gyhoeddi cynghrair “wedi’i gorsymleiddio”.
‘Argyhoeddedig’
“Rwy’n dal i fod yn gwbl argyhoeddedig nad oes lle i gynghreiriau wrth wella ysgolion yng Nghymru,” meddai.
“Y Ffindir, lle nad oes unrhyw gynghreiriau ysgolion yw un o’r gwledydd sy’n perfformio orau. Os cynghreiriau yw’r allwedd i ysgolion rhagorol, yna Lloegr fyddai ar frig sgoriau PISA (y mesur rhyngwladol). Ond nid dyna’r sefyllfa – o bell ffordd.”
Yn ôl Leighton Andrews, y nod yw cael gwybodaeth gadarn a defnyddio honno i fesur safonau a “hyrwyddo gwelliant parhaus”.
Roedd yr wybodaeth ar gyfer y tablau wedi ei chyhoeddi i’r BBC ar ôl cais rhyddid gwybodaeth.