Ryan Giggs
Mae Aelod Seneddol wedi enwi’r Cymro Ryan Giggs, gan ddweud mai ef yw’r pêl-droediwr yn achos Imogen Thomas.
Trwy gyhoeddi’r enw ar lawr Tŷ’r Cyffredin, roedd John Hemming, un o ASau’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn ochrgamu gwaharddiad llys sydd wedi atal y cyfryngau rhag cyhoeddi enw Giggs.
Y prynhawn yma, fe wrthododd yr Uchel Lys gais gan bapur newydd y Sun i godi’r gwaharddiad gan ddweud bod angen gwarchod y pêl-droediwr a’i deulu.
Hysbys
Mae’r enw wedi bod yn hysbys ar wefannau cymdeithasol ers amser ac roedd papur newydd y Sunday Herald yn yr Alban wedi cyhoeddi llun o chwaraewr canol cae Manchester United.
Un o’r cynta’ i dorri’r newydd oedd gwefan papur newydd Y Guardian – fe gymerodd eu blogiwr, Andrew Sparrow, gyngor cyfreithiol cyn ailadrodd yr honiad. Roedd Sky a’r Times hefyd wedi’i enwi ond fe gyhoeddodd y BBC’r stori heb gyhoeddi’r enw.
Fe ddatgeloddd John Hemming yr enw cyn i’r Llefarydd John Bercow lwyddo i dorri ar ei draws.
Wrth siarad am waharddiadau llys, fe ddechreuodd frawddeg yn dweud bod 75,000 o bobol wedi enwi Ryan Giggs ar Twitter a’i bod yn “anymarferol” i’w carcharu nhw i gyd.
‘Perthynas rywiol’
Mae Imogen Thomas, y fodel o Lanelli, yn honni ei bod hi wedi cael perthynas rywiol gyda Ryan Giggs, sy’n ŵr priod gyda dau o blant.
Ddoe, roedd Giggs yn Old Trafford gyda’i deulu ar gyfer gêm olaf United gartre y tymor hwn ac roedd ei blant gydag ef ar y cae yn cyfarch y dorf.