Alzheimer - sgan PET o ymennydd claf (Cyhoeddus)
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn meddwl eu bod wedi datrys un o gyfrinachau clefyd Alzheimer’s, a dechreuadau bywyd ar y ddaear.

Fe fydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddiwedd y mis er mwyn i gleifion a’u teuluoedd a gweithwyr iechyd gael gwybod am y gwaith.

Maen nhw wedi dod o hyd i ffibrau o’r enw ANA o fewn DNA pobol – eu cred yw bod un math o’r ffibrau ar y ddaear wrth i fywyd ddechrau ond mae math arall yn ffurfio yn yr ymennydd ac yn achosi niwed i gelloedd y nerfau yno gan achosi symptomau dryswch meddwl.

Cyhoeddi’r ymchwil

Mae’r ymchwil, sydd wedi ei noddi gan Alzheimer Research UK ar Ymddiriedolaeth Leverhulme, yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon ar wefan agored o’r enw PLOS One.

“Efallai y gallwn ddod o hyd i ffordd o rwystro’r ffibrau ANA rhag ffurfio a gwarchod yr ymennydd rhag niwed,” meddai’r Athro Trevor Dale, o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd.

Yn ôl yr elusen, mae 820,000 o bobol yn diodde’ o ddryswch meddwl yng ngwledydd Prydain ar hyn o bryd ac mae rhai gwyddonwyr yn credu y bydd yn datblygu’n un o broblemau iechyd mwya’r byd wrth i’r boblogaeth heneiddio.