Imogen Thomas (Gwifren PA)
Fe allai papur newydd yn yr Alban gael ei erlyn am gyhoeddi llun o bêl-droediwr sydd ynghanol camau cyfreithiol i gadw ei enw’n gudd.

Mae cyfreithwyr y pêl-droediwr enwog yn dweud eu bod yn ystyried eu camau nesa’ wedi i’r Sunday Herald gyhoeddi’r llun ar ei dudalen flaen ddoe.

Dim ond llygaid y chwaraewr oedd wedi eu cuddio ac, yn ôl y papur, doedd gwaharddiad llys ar gyfer Cymru a Lloegr ddim yn effeithio arnyn nhw.

Ond mae’r Herald ar werth hefyd mewn rhai llefydd y tu allan i’r Alban ac roedd y llun hefyd ar wefan y papur.

Mae’r wefan wybodaeth Wikipedia hefyd wedi ailadrodd yr honiadau am y chwaraewr yn yr erthygl amdano.

Cymru ynghanol y stori

Mae Cymru ynghanol y stori gan mai’r fodel o Lanelli, Imogen Thomas, sy’n honni bod y chwaraewr wedi cael perthynas rywiol gyda hi.

Fe gafodd y chwaraewr waharddiad i gadw’i enw’n ddirgel ac mae’n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cyn gystadleuydd ar y rhaglen ‘realiti’ Big Brother a phapur newydd y Sun a oedd wedi bwriadu cyhoeddi’r stori.

Yn ôl y Sun heddiw, roedd cefnogwyr ddoe wedi llafarganu’r honiad yn erbyn y chwaraewr pan oedd ei wraig a’i blant yn y stadiwm ar gyfer gêm gartref ola’i glwb y tymor yma.