Mae perchennog y ceffyl gafodd ei ddal yn ceisio mynd â hi ar drên yn Wrecsam wedi honni nad dyna’r tro cyntaf i’w anifeiliaid gymryd mantais o drafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd Joe Purcell ei fod wedi teithio ar drên â cheffyl o’r blaen, yn ogystal ag ieir a geifr.

Daeth Joe Purcell a’i geffyl Ruby i sylw’r byd yr wythnos diwethaf pan gafodd ei ddal ar gamera cylch cyfyng yn ceisio mynd a’r ceffyl ar drên.

“Roeddwn i wedi dweud wrth y tocynnwr mai hi oedd fy ngheffyl tywys,”meddai. “Mae gan bobol gŵn tywys – pam ddim merlod tywys?

“Ond roeddwn i wedi meddwi ar y pryd,” cyfaddefodd.

Dywedodd y Gwyddel o Tipperary wrth bapur newydd y Western Mail fod ganddo 11 o blant a 48 o wyrion ac wyresau.

Mae Ruby hefyd yn disgwyl ebol, a chafodd Joe Purcell ei ddal ar gamera cylch cyfyng yn mynd â hi i Ysbyty Maelor Wrecsam ddiwrnod cyn iddo geisio mynd â hi ar y trên.

“Roeddwn i eisiau iddyn nhw wneud sgan am ei bod hi’n cael babi,” meddai. “Roeddwn i eisiau gweld a oedd hi’n cael bachgen neu ferch.”

Ychwanegodd ei fod wedi teithio ar y trên rhwng High Wycombe a Wolverhampton yn 2006 gyda cheffyl o’r enw Queenie.

Roedd hefyd wedi teithio ar y trên rhwng Caer a Wolverhampton y llynedd gyda thair gafr.