Llun o wefan yr ymgyrch yn dangos y cerddwyr yn cychwyn
Mae pedwar o ddynion wedi croesi mwy na hanner ffordd eu taith gerdded i’r hyn y mae’r trefnwyr yn honni fydd y brotest fwya’ erioed yn erbyn ffermydd gwynt.
Fe fydd y cerddwyr yn cyrraedd adeilad y Cynulliad yng Nghaerdydd ddydd Mawrth i ymuno gyda channoedd o bobol o Sir Drefaldwyn sy’n protestio yn erbyn cynlluniau datblygu ynni gwynt yn y sir.
Maen nhw’n dweud y bydd y bwriad i godi gorsaf drosglwyddo a rhesi o beilonau’n distrywio rhai o olygfeydd hardda’r ardal ac yn achosi blynyddoedd o drafferth ac anhwylustod i bobol leol.
Roedd y pedwar cerddwr wedi cyrraedd Aberhonddu neithiwr, ar ôl cychwyn o’r Trallwng ddydd Iau; mae bysys wedi eu trefnu o 11 o drefi a phentrefi’r sir ar gyfer y brotest fawr.
Peilonau
Fe fydd yr AC newydd, Russell George, a’r Aelod Seneddol Glyn Davies yn annerch, ynghyd â’r darlledwyr Sian Lloyd a Myfanwy Alexander.
Mae’r mudiad Sir Drefaldwyn yn Erbyn Peilonau’n dweud y gallai’r cynlluniau newydd olygu codi peilonau 46 metr trwy Ddyffryn Efyrnwy er mwyn cario gwifrau 400,000 volt.
Maen nhw hefyd yn honni y gallai arwain at fwy nag 800 o deithiau bob blwyddyn gyda llwythi anarferol o fawr.