Mae gweithwyr Swyddfa Basbortau Casnewydd yn disgwyl cael gwybod y bydd bron i 300 o swyddi yn cael eu colli yno.

Bydd dyfodol y gwasanaeth yn cael ei gyhoeddi tua hanner dydd ddydd Llun ac mae undeb PCS sy’n cynrychioli’r gweithwyr yno yn credu y bydd 280 o swyddi’n mynd.

Y gobaith yw y bydd Llywodraeth San Steffan yn penderfynu cadw tua 50 o swyddi yno. Cyhoeddwyd eu bod nhw’n bwriadu cau’r swyddfa ym mis Hydref.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am gadw’r gwasanaeth ar agor.

“Mae Swyddfa Pasbortau Casnewydd yn gwneud cyfraniad mawr i economi Casnewydd a De Ddwyrain Cymru,” meddai llefarydd.

“Yn ogystal â’r effaith ar economi Casnewydd, fe fyddai’n golygu mai Cymru yw’r unig ran o Ynysoedd Prydain sydd heb ei Swyddfa Basbortau ei hun.

“Ers i Lywodraeth San Steffan cyhoeddi ei fwriad i gau’r swyddfa, mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar Brif Weinidog Prydain, y Gweinidog Mewnfudo ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gadw’r gwasanaeth ar agor a diogelu’r swyddi pwysig y mae’n ei ddarparu.”

Astudiodd y Pwyllgor Materion Cymreig y mater ym mis Mawrth, gan ddweud nad oedden nhw’n argyhoeddedig y byddai cau’r swyddfa yn arbed arian i’r trethdalwr.