Aled Roberts
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwadu fod dau AC sydd wedi eu gwahardd o’r Cynulliad Cenedlaethol wedi torri rheolau etholiadol.

Mae Aled Roberts a John Dixon wedi eu gwahardd o’u seddi am eu bod nhw wedi parhau’n aelodau o gyrff cyhoeddus ar ôl sefyll ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, sy’n groes i’r gyfraith.

Roedd Aled Roberts o restr Gogledd Cymru yn aelod o Gomisiwn Prisiau Cymru a John Dixon o ranbarth Canol De Cymru yn aelod o Gyngor Gofal Cymru.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod Cyngor Gofal Cymru wedi terfynu aelodaeth John Dixon pan gafodd ei ethol. Yn ôl llefarydd ar ran y blaid mae ganddyn nhw lythyr sy’n profi hynny.

Maen nhw hefyd yn honni fod Aled Roberts wedi derbyn rhestr o gyrff  gwaharddedig gan y Comisiwn Etholiadol nad oedd yn cynnwys Comisiwn Prisiau Cymru.

Mae’r ddau Aelod Cynulliad bellach wedi ymddiswyddo o’r cyrff cyhoeddus.

Mae aelod UKIP yn y Senedd Ewropeaidd, John Bufton, wedi gofyn i’r heddlu ymchwilio gan ddweud bod y ddau’n euog o dwyllo etholiadol.

Mae Heddlu De Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r cyhuddiadau.