Plant yn defnyddio bwrdd gwyn (svonog CCA 2.0)
Mae undeb athrawon wedi ymosod ar gynghrair ysgolion sydd wedi ei gyhoeddi gan y BBC yng Nghymru.

Yn ôl undeb ATL Cymru, dyw codi cywilydd ar ysgolion sydd heb fod yn perfformio cystal ddim yn gwneud lles.

“Does gan natur amrwd y farchnad ddim lle mewn addysg,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Philip Dixon. “Mae’n troi plant yn deganau mewn gêm sy’n mynd yn fwy a mwy dibwrpas.”

Rhyddid gwybdoaeth

Fe gafodd y BBC afael ar ffigurau’r ysgolion trwy gais rhyddid gwybodaeth i Lywodraeth y Cynulliad ac maen nhw wedi cyhoeddi’r tabl sy’n dangos pa ysgolion sy’n llwyddo i wella perfformiad eu disgyblion.

Yn ôl y Llywodraeth ei hun, mae’n fesur cadarn o berfformiad ysgolion ond mae addysgwyr yn mynnu ei fod yn gamarweiniol oherwydd ei fod yn delio gydag un mesur cyfyng iawn.

Yn ôl Philip Dixon, mae angen defnyddio esiampl yr ysgolion gorau i wella’r lleill ond mae angen gweithredu’n “sensitif”.

Y ffigurau

Mae’r tabl yn awgrymu fod gwahaniaeth mawr rhwng perfformiad ysgolion a siroedd, gyda mwy na 40 o’r 222 o ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi gwneud yn sylweddol waeth nag y dylen nhw.

Mae’r ffigurau’n cael eu seilio ar gymharu asesiad o ddisgwyliadau’r plant pan fyddan nhw’n 11 oed gyda’u perfformiad go iawn yn yr arholiadau TGAU.

Mae’r ysgol ‘orau’ yn cael sgôr positif o bron 20 gyda’r ysgol ‘waethaf’ yn cael sgôr negatif o fwy na 31. Y sir gyda’r cyfartaledd gorau yw Sir y Fflint, gyda sgôr positif o fwy na 6 a’r isaf yw Sir Fynwy, gyda sgôr negatif o fwy na 9.