Elaine Edwards
Yr undeb athrawon Cymraeg yw’r diweddara’ i ofyn i’w aelodau bleidleisio tros weithredu diwydiannol.

Fe gyhoeddodd UCAC y bydd yn dilyn esiampl yr NUT a’r ATL sydd eisoes wedi dechrau gofyn barn aelodau am gynnal streiciau undydd.

Roedd cynhadledd yr undeb, sy’n cynrychioli 5,000 o athrawon a darlithwyr yng Nghymru, wedi rhoi caniatâd i weithredu yn erbyn cynlluniau Llywodraeth Prydain i newid pensiynau athrawon.

Fe gafodd y penderfyniad ei wneud gan Gyngor Cenedlaethol yr undeb ddoe.

‘Annheg’

Roedd cynnig yno wedi galw’r cynlluniau’n “annheg a diangen” – yn ôl yr undebau, fe fyddai athrawon yn gorfod talu mwy a gweithio’n hwy a chael llai yn y diwedd.

“Mae’n amlwg bod Llywodraeth San Steffan yn benderfynol o waethygu amodau cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Elaine Edwards.

“Mae’r newidiadau hyn yn fygythiad, nid yn unig i weithwyr unigol, ond i’n gwasanaethau cyhoeddus ni yn eu cyfanrwydd.”