Carl Sargeant sydd wedi lansio'r fenter newydd i helpu'r rhai sy'n gaeth i gyffuriau caled.
 Fe fydd menter i geisio atal marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn cael ei weithredu trwy Gymru.

Mae cynllun The Take Home Naloxone Rescue yn cynnig pecynnau Naloxone sy’n gwrthsefyll effeithiau gorddos Heroin –  i ddefnyddwyr cyffuriau allai fod mewn perygl.

Daw’r penderfyniad yn dilyn gwerthusiad o’r cynlluniau peilot gafodd eu gweithredu mewn ardaloedd yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Heddiw, mae cynhadledd yn cael ei chynnal gan Brosiect Cyffuriau Abertawe yn son am ddefnydd llwyddiannus Naloxone wrth geisio atal gorddosau.

‘Tystiolaeth gref’

“Mae tystiolaeth gref fod yr ardaloedd sydd wedi bod yn defnyddio Naloxone wedi gweld gostyngiad yn nifer y marwolaethau a’r gorddosau angheuol a dyna pam mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithredu’r cynllun ar draws Gymru,”  meddai Carl  Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Llywodraeth Cymru.

“Mae cam ddefnyddio cyffuriau yn cael effaith ofnadwy ar unigolion, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

“Rydan ni’n gobeithio y bydd cyhoeddiad heddiw am gynllun the Take Home Naloxone yn ein helpu gyda’n hymrwymiad cyfredol i leihau marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau ar draws Cymru.”