Mae pryder bod darpar athrawon yn cael eu digalonni, wrth iddi ddod i’r amlwg bod llai na hanner yr athrawon sydd newydd gymhwyso yn dod o hyd i waith llawn amser.
Yn 2004 roedd 66% o athrawon newydd yn dod o hyd i swydd yn syth ar ôl cymhwyso.
Erbyn hyn dim ond tua 40% o athrawon newydd sy’n dod o hyd i swydd yn dysgu llawn amser.
Yn ôl Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru mae’r nifer sy’n dod o hyd i waith llawn amser yn syrthio o flwyddyn i flwyddyn.
“Yn amlwg, mae’n bryder mawr fod pobl yn treulio blynyddoedd yn hyfforddi i ddysgu a bod llawer llai na’u hanner yn cael swyddi mewn gwirionedd,” meddai Cadeirydd y Cyngor Addysgu, Angela Jardine.
“Byddwn yn anfon y ffigyrau at ffurfwyr polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru i’w hystyried.”
Undeb y Prifathrawon yn poeni
“Mi fydd y newyddion yma yn digalonni athrawon dan hyfforddiant a’r rhai sydd newydd,” meddai Anna Brychan, Cyfarwyddwr Undeb y Prifathrawon yng Nghymru.
“Ryda ni angen ei sgiliau, eu hegni a’u brwdfrydedd yn nosbarthiadau Cymru.
“Mae’r bobl hyn wedi buddsoddi’n enfawr yn eu hyfforddiant – fel yr yda ni oll fel trethdalwyr.”
Mae Anna Brychan yn credu bod angen teilwra’r cyrsiau hyfforddi athrawon i ateb y galw ar lawr y dosbarth.
“Rhaid i ni edrych ar y ddarpariaeth o ran hyfforddi athrawon – yda ni’n cynnig yr hyfforddiant cywir ir bobol gywir?”