M
Poster yr undebau'n galw am bleidlais tros streic
ae mwyafrif athrawon Cymru bellach yn pleidleisio ynglŷn â chynllun i streicio tros bensiynau.

Ddydd Mercher, fe ddechreuodd y bleidlais ymhlith aelodau’r undeb mwya’, yr NUT, a ddoe fe ymunodd aelodau undeb y darlithwyr, yr ATL, gyda nhw.

Mae arweinwyr y ddau undeb yn hyderus y bydd yr athrawon yn pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol tros newidiadau yn eu pensiynau.

Y bwriad yw cynnal un diwrnod o streic i ddechrau, ond fe allai rhagor ddilyn os na fydd y Llywodrath yn ildio.

‘Dim trafod’

Maen nhw’n cyhuddo’r Llywodraeth yn Llundain o wthio’r newidiadau trwodd heb drafod, gan olygu y bydd athrawon yn gorfod talu mwy i’w pensiynau, yn gorfod gweithio’n hirach a chael llai o arian yn y pen draw.

“Mae ein haelodau wedi eu hargyhoeddi mai dim ond bygythiad streicio a ddaw â Llywodraeth San Steffan at eu coed a gwneud iddyn nhw drafod y neiwidadau yn hytrach na cheisio’u gorfodi nhw,” meddai Cyfarwyddwr yr ATL yng Nghymru, Philip Dixon.

Yn ôl y ddau undeb, fe allai ambell athro golli cymaint â £250,000 tros gyfnod eu hymddeoliad ond mae’r Llywodraeth yn dweud eu bod yn gorfod newid pensiynau’r sector cyhoeddus er mwyn bod yn deg â’r trethdalwyr yn ogystal â’r gweithwyr ac i amddiffyn y pensiynau yn y tymor hir.