Rosemary Butler, y Llywydd
Mae ymchwiliad Clerc y Cynulliad i helynt y ddau Aelod Cynulliad sydd wedi’u gwahardd wedi cael ei atal am y tro – ar ôl i Heddlu De Cymru gadarnhau eu bod yn ymchwilio i honiad o dwyll etholiadol.

Fe ddaeth y cam ar ôl i’r plismyn ymgynghori gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron – mae’n debyg fod yr Aelod o Senedd Ewrop, John Bufton, wedi gwneud cwyn ffurfiol.

“Mae’r ymchwiliad yn y camau cynnar ac mae ymholiadau’n parhau,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r De.

Fe gyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad ddatganiad y prynhawn yma yn dweud bod Llywydd y Cynulliad yn aros am adroddiad a chyngor cyfreithiol.

Adroddiad

Yn ôl y datganiad, roedd y Llywydd wedi gofyn i Glerc y Cynulliad i roi adroddiad iddi am achosion y ddau aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts a John Dixon.

Maen nhw’n parhau wedi’u gwhardd am beidio ag ymddiswyddo o ddau gorff cyhoeddus cyn cael eu hethol yn Aelodau Cynulliad.

Roedd y ddau wedi gobeithio y bydden nhw’n cael cefnogaeth y Cynulliad tros yr hyn y maen nhw’n ei alw’n “gamgymeriad technegol”.

Ond fe ddaeth yn glir hefyd bod arweinydd eu plaid yng Nghymru, Kirsty Williams, wedi bod yn rhan o drafodaeth ar y broblem ac wedi codi’r union bwynt.