Kirsty Williams

Mae cofnodion un o bwyllgorau’r Cynulliad yn dangos fod arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi bod yn rhan o drafodaeth am yr union Orchymyn sydd wedi arwain at wahardd dau o Aelodau’r Cynulliad.

Ar y pryd fe ddywedodd Kirsty Williams ei bod yn ymwybodol y gallai Gorchymyn Anghymwyso 2010 effeithio’n uniongyrchol ar un o ymgeiswyr ei phlaid hi yn etholiadau’r Cynulliad.

Roedd hynny ar 24 Tachwedd y llynedd ac fe gafodd y Gorchymyn ei basio mewn sesiwn llawn o’r Cynulliad union wythnos wedyn.

Clir

Mae’r Gorchymyn yn gwneud yn glir bod aelodau o Gyngor Gofal Cymru a Thribiwnlys Prisio Cymru yn cael eu hatal rhag bod yn ACau – roedd dau o ACau newydd y Democratiaid yn aelodau o’r rheiny.

  • Mae John Dixon, a gafodd ei ethol ar restr Canol De Cymru wedi’i wahardd am fod yn aelod o’r Cyngor Gofal.
  • Mae Aled Roberts, a gafodd ei ethol ar restr Gogledd Cymru, wedi’i wahardd am fod yn aelod o’r Tribiwnlys Prisio.

Er eu bod nhw bellach wedi ymddiswyddo o’r cyrff hynny, mae cyngor cyfreithiol yn awgrymu fod hynny’n rhy hwyr ac na fyddan nhw’n gallu cymryd eu seddi.

Roedd ACau wedi bod yn trafod pryd yn union y dylai ymgeiswyr ymddiswyddo a’r casgliad oedd y dylai hynny fod cyn i ganlyniad yr etholiad gael ei gyhoeddi.

Beth ddywedodd Kirsty Williams

Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol, roedd Kirsty Williams wedi dweud bod angen cael eglurdeb ynglŷn â’r Gorchymyn.

Dyma beth ddywedodd hi:

“R’yn ni’n mynd yn agos iawn at gyfnod etholiad, ac fe alla’ i feddwl am o leia’ un ymgeisydd o fy mhlaid i a fyddai’n tramgwyddo’r rheolau hyn fel y maen nhw wedi eu drafftio ar hyn o bryd.

“Felly mae’r rhaid i ni gael eglurdeb cyn gynted â phosib oherwydd mae ymgeiswyr wedi eu dewis sydd angen gwneud penderfyniad am y byrddau y maen nhw’n eistedd arnyn nhw neu’r swyddi sydd gyda nhw ar hyn o bryd.

“Does dim byd yn waeth na rhywun yn dioddef oherwydd y rheolau, ar ôl ennill lle yn y Cynulliad yn gyfreithlon, a gweld hynny’n cael ei dynnu oddi arnyn nhw am nad ’yn  ni wedi bod yn glir am y rheolau o amgylch ymgeisyddiaeth.”

Rhestr

Mae’r rhestr o gyrff ar dudalen 3 a 4 o’r Gorchymyn yn dangos yn glir bod y Cyngor Gofal a’r Tribiwnlys Prisio wedi eu cynnwys.

Roedd Kirsty Williams hyd yn oed wedi tynnu sylw at y problemau arbennig oedd yn wynebu ymgeiswyr rhanbarth oherwydd na fyddai’n glir tan y funud ola’ a fydden nhw’n cael eu hethol ai peidio.