Jonathan Edwards - galw am ddadl
Mae Aelod Seneddol wedi galw am ddadl frys am S4C yn Nhŷ’r Cyffredin ac mae casgliad o fudiadau Cymreig wedi galw am roi’r gorau i’r trafodaethau i roi’r sianel dan adain y BBC.

Roedden nhw’n ymateb i’r ail adroddiad beirniadol o fewn wythnos gan bwyllgorau’r seneddol – gyda’r ddau yn condemnio’r brys a’r diffyg ymgynghori cyn y penderfyniad i wthio’r ddau gorff ynghyd.

Roedd dyfodol y sianel yn cael ei ben derfynu mewn trafodaethau dirgel, meddai AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, ac roedd angen i’r Llywodraeth gynnal dadl ar lawr Tŷ’r Cyffredin.

“O ystyried pryderon ar draws y pleidiau ar y mater, ac i sicrhau dylanwad democrataidd dros y trafodaethau, mae angen dadl fuan,” meddai.

‘Rhowch y gorau i’r trafodaethau’

Yn y cyfamser, mae grŵp ymgyrchu sy’n cynnwys Cymdeithas yr Iaith ac undebau darlledu wedi galw am ddiddymu’r trafodaethau a fyddai’n rhoi S4C dan adain Ymddiriedolaeth y BBC.

Mae’r trafodaethau mewn argyfwng, medden nhw mewn llythyr agored at y Llywodraeth, y BBC ac S4C.

“Mae’n amlwg erbyn hyn eich bod chi fel sefydliadau cyhoeddus wedi cael eich ynysu’n wleidyddol, mae eich holl drafodaethau nawr mewn stad o argyfwng – dydyn nhw ddim yn ddilyn yng ngolwg y cyhoedd,” medden nhw.

Roedden nhw’n condemnio’r BBC am beidio ag ymgynghori ynglŷn â’u cynlluniau sy’n debyg o gynnwys gwneud S4C yn atebol i Ymddiriedolaeth y Gorfforaeth.

S4C – annibyniaeth ‘yn allweddol’

Mae S4C hefyd wedi ymateb i’r adroddiad diweddara’, gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn Nhŷ’r Cyffredin.

Maen nhw wedi pwysleisio bod annibyniaeth y sianel hyn “allweddol” – o ran polisi golygyddol a gweithredu – ac maen nhw’n honni bod cytundeb ar draws y pleidiau ynglŷn â hynny.