Mae  Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro wedi datgelu arlwy llwyfan Maes C eleni.

Bydd yr wythnos yn cychwyn ar nos Sadwrn, 30 Gorffennaf, gyda Dafydd Iwan a Gwyneth Glyn.

Mae nos Sul yn noson i’r teulu, gyda Bob Delyn a’r Ebillion, caneuon Cwm Rhyd y Rhosyn a Dafydd Iwan , a bydd Twm Morys hefyd yn perfformio hwiangerddi Cymraeg.

Bydd Sibrydion yn cynnal gig hwyr ym Maes C, nos Lun 1 Awst – gan gychwyn ar ôl i’r cyngerdd Clasuron Pop orffen yn y Pafiliwn ar y Maes.

Sioe lwyfan ‘Mae Caryl Parry Jones yn fyw’ fydd yn diddanu cynulleidfa Maes C nos Fawrth, gan addo “noson hwyliog a llawn chwerthin”.

Noson Barddas a Llenyddiaeth Cymru fydd ym Maes C nos Fercher, Dal dy Dafod, yng nghwmni’r beirdd a’r perfformwyr Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn, Mei Mac, Twm Morys a Geraint Lovgreen. Bydd y noson hon yn dilyn llwyddiant Cofio Iwan Llwyd a gynhaliwyd y llynedd, meddai’r Eisteddfod.

Nos Iau, bydd un o “berfformwyr eiconig y saithdegau” yn dychwelyd i lwyfan yr Eisteddfod, gyda sioe hollol newydd Hywel Ffiaidd, sydd wedi’i chreu gan Meic Povey, yn arbennig ar gyfer Maes C Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro.

Nos Wener fydd y Stomp, a drefnir gan Llenyddiaeth Cymru. Mae’r Eisteddfod yn annog pobol sydd am weld y sioe Hywel Ffiaidd neu’r Stomp i archebu tocynnau o flaen llaw.

Maffia Mr Huws sy’n cloi’r wythnos gyda Daniel Lloyd a Mr Pinc. Dywed yr Eisteddfod y bydd yn “ddiwedd arbennig i wythnos o amrywiaeth a doniau a fydd yn cynnig rhywbeth i bawb o bob oed”.

“Bwriad y nosweithiau hyn yw parhau â’r awyrgylch hwyliog a chyfeillgar a geir o amgylch y llwyfannau perfformio a’r patios bwyd yn ystod y dydd,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.

“Mae’r arlwy eleni’n eclectig, yn gymysgedd o bob math o genres, ac yn sicr o apelio at Eisteddfodwyr pybyr sy’n aros yn y maes carafanau’i hun, yn ogystal â thrigolion lleol.

“Mae’n gymysgedd unigryw o farddoniaeth, comedi, cerddoriaeth a llond lle o hwyl, ac mae’n sicr y bydd y gynulleidfa’n cael blas ar yr hyn sydd ar gael.”

Cynhelir Maes C eleni yn Ysgol Clywedog (yr hen Ysgol Bryn Offa), sy’n gyfochrog â’r Maes Carafanau swyddogol, sydd ar dir Fferm Bers Isaf, oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam, wrth ymyl y Maes ei hun.

Cynhelir yr Eisteddfod o 30 Gorffennaf – 6 Awst.

Gellir archebu tocynnau Maes C arlein – www.eisteddfod.org.uk – neu drwy ffonio’r Llinell Docynnau ar 0845 4090 800. Yn ogystal gellir prynu tocynnau ar gyfer Dal dy Dafod a’r Stomp gan Llenyddiaeth Cymru ar 029 2047 2266.