Bydd cannoedd o gimwch afon o Gymru yn cael eu gollwng mewn safle cudd er mwyn ceisio arafu’r gostyngiad yn nifer y creaduriaid, cyhoeddodd Asiantaeth yr Amgylchedd heddiw.

Mae nifer y cimwch afon crafanc wen brodorol wedi syrthio’n sylweddol o ganlyniad i oresgyniad gan gimwch afon Americanaidd.

Mae’r cimwch afon estron yn cystadlu am fwyd a hefyd yn cario haint ffwngaidd sy’n lladd y rhywogaeth frodorol.

Mae’r honno bellach mewn perygl o ddiflannu yn llwyr, felly mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi bod yn eu magu yn neorfa Cynrig ger Aberhonddu.Yr wythnos yma fe fydd cannoedd ohonyn nhw’n cael eu gollwng mewn safle cyfrinachol yng Nghernyw.

Chwilio am afonydd eraill

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn chwilio am afonydd eraill ar draws gwledydd Prydain lle y bydd yn saff i’w gollwng nhw.

Byddai angen iddyn nhw gael eu diogelu rhag pysgotwyr a hefyd y cimwch afon Americanaidd estron.

Daw’r penderfyniad i fagu’r cimwch yng Nghymru ar ôl i waith ymchwil awgrymu y byddan nhw, fel arall, yn diflannu o fewn 20 mlynedd fel.

“Mae’r cimwch afon bach yn Cynrig wedi gwneud yn llawer gwell na’r disgwyl,” meddai Oliver Brown ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd.

“Roedd 75% wedi goroesi felly bu’n rhaid i ni ryddhau nifer ohonyn nhw mewn safle yng Nghymru’r llynedd er mwyn rhoi cyfle i ragor ohonyn nhw dyfu.

“Rydyn ni bellach yn chwilio am afonydd saff eraill ar draws Cymru a Lloegr a’r nod yn y pen draw yw gollwng rhagor o gimwch afon i’r gwyllt.”