Dave Jones, hyfforddwr Caerdydd
Mae hyfforddwr Caerdydd, Dave Jones, wedi dweud ei fod yn ystyried ei ddyfodol â’r clwb ar ôl eu gweld nhw’n colli 3 – 0 yn erbyn Reading yn ail gymal rownd cyn derfynol gemau ail gyfle y Bencampwriaeth.

Daw’r siom ddiweddaraf ar ôl iddyn nhw golli 3 – 2 yn erbyn Blackpool yn y rownd derbynol y gystadleuaeth y llynedd, a methu a chyrraed y gemau ail gyfle y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd Dave Jones ei fod yn mwynhau ei swydd, ond y gallai benderfynu roi’r gorau iddi neu fe allai’r bwrdd ofyn iddo fynd.

“Ar y funud dw i’n teimlo’n is na bol neidr,” meddai. “Bydd rhaid i mi ystyried fy mywyd, fy swydd ag a ydw i eisiau parhau.

“Bydd rhaid i’r perchnogion a hierarchaeth y clwb benderfynu a ydyn nhw fy eisiau i.

“Os ydyn nhw’n teimlo fod rywun gwell ar gael mae hynny’n iawn, does gen i ddim problem â hynny. Mae fy CV yn profi fod gen i’r gallu i wneud y gwaith.

“Efallai nad y perchnogion fydd yn penderfynu, ond fi fy hun. Bydd y penderfyniad yn un i’w wneud yng ngolau dydd, yn benderfyniad pwyllog, ac yn benderfyniad i fi yn ogystal a’r perchnogion.

“Mae’n bosib y byddwn nhw’n dweud ‘ie’ a fi’n dweud ‘na’ neu i’r gwrthwyneb. Ond mae yna dân yn fy nghalon o hyd am fy mod i’n caru fy swydd.”