Mae Dŵr Cymru wedi dod i frig rhestr Prydeinig o gwmnïau dŵr sy’n llygru’r amgylchedd.

Mae’r rhestr, gan Asiantaeth yr Amgylchedd, yn dweud mai Dŵr Cymru yw y cwmni gwaethaf o’r deg cwmni dŵr mwyaf ar draws Prydain am lygru’r amgylchedd.

Mae’r astudiaeth, sydd ar waith ers 2009, wedi gweld Dŵr Cymru yn cadw’n gyson at frig y rhestr am lygru’r amgylchedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru eu bod yn “siomedig” gyda’r casgliadau, ond fod y cwmni wedi gwneud yn well ers dechrau 2010.

Mae’r astudiaeth – y cyntaf o’i fath gan asiantaeth yr amgylchedd – yn cymharu perfformiad y cwmnïau gyda’u llwyddinat i gadw at amodau eu trwydded, eu record o lygru’r amgylchedd, a chynlluniau i eoi gwelliannau ar waith.

Dim gwelliant

Yn 2009, cofnodwyd 318 o ddigwyddiadau o lygredd categori 3 gan Ddŵr Cymru, sy’n cael effaith lleol neu byr-dymor ar yr amgylchedd.

Yn yr un flwyddyn, gwelwyd saith digwyddiad categori 2, sy’n cael “effaith sylweddol ond gweddol lleol ar safon y dŵr.”

Digwyddodd dau o’r digwyddiadau hyn ger afonydd, ac un ger ysbyty fawr.

Dywedodd llefarydd ar ran Asaintaeth yr Amgylchedd Cymru fod “gwella safon y dŵr yn ein afonydd, llynoedd a dŵr arfordirol yn holl bwysig i amgylchedd ac economi Cymru”.

“Rydyn ni’n gwiehtio’n agos gyda chwmniau dŵr i geisio gwella eu perfformiad a lleihau eu heffeithiau ar yr amgylchfyd naturiol.”

Wrth sôn am le Dŵr Cymru ar y rhestr, dywedodd y llefarydd ei bod hi’n “anodd iawn cymharu un cwmni â’r llall,” gan eu bod nhw mewn aradloedd daearyddol mor wahanol.

“Y peth gorau yw i edrych ar berfformiad y cwmni o flwyddyn i flwyddyn.”

Dyma, meddai, lle mae’r pryder ynglŷn â Dŵr Cymru yn codi.

“Dydi nifer y digwyddiadau ddim yn gostwng gyda Dŵr Cymru, y cyfan mae’r ffigyrau yn dueddol o wneud yw neidio o gwmpas ychydig. Rydyn ni eisiau gweld gwelliant yn hynny o beth, ac rydyn ni’n chwilio am sicrwydd fod y cwmni yn rheoli ei wastraff.”