Aled Roberts
Mae Aled Roberts wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi’r gorau i’w swydd yn arweinydd Cyngor Wrecsam yn dilyn ei etholiad yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru ddechrau’r mis.

Y Democrat Rhyddfrydol yw’r ail arweinydd cyngor i gamu o’r neilltu yn sgil llwyddiant yn Etholiadau’r Cynulliad.

Mae Arweinydd Cyngor Caerffili, Lindsay Whittle, eisoes wedi cadarnhau y bydd yn rhoi’r gorau iddi er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa newydd yn Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru.

Fe fydd John Dixon, yr Aelod Cynulliad newydd dros Ganol De Cymru, hefyd yn rhoi’r gorau i fod yn aelod dros iechyd, gofal cymdeithasol a lles ar Gyngor Caerdydd.

Fe fyddwn nhw yn parhau yn gynghorwyr nes yr etholiadau nesaf ym mis Mai 2012.

“Roeddwn i wedi ei gwneud hi’n glir cyn yr etholiad na fyddwn i eisiau parhau yn arweinydd ar Gyngor Wrecsam pe bawn i hefyd yn cael fy ethol i gynrychioli Gogledd Cymru yn y Cynulliad,” meddai Aled Roberts.

“Mae pobol Gogledd Cymru yn haeddu llais sy’n ymroddedig i’w cynrychioli nhw yn y Cynulliad.”

Dywedodd John Dixon nad oedd ei swydd ar y cyngor yn un llawn amser ond nad oedd yn teimlo y gallai wneud cyfiawnder â’u waith yn Aelod Cynulliad pe bai hefyd yn aelod o gabinet cyngor y brifddinas.