Elin Jones
Mae Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, Elin Jones a Simon Thomas, wedi dweud eu bod nhw’n barod i ystyried bod yn ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y blaid.

Cyhoeddodd yr arweinydd presennol, Ieuan Wyn Jones, ddydd Gwener ei fod yn bwriadu camu o’r neilltu hanner ffordd drwy dymor pum mlynedd y Cynulliad.

Hyd yn hyn dim ond yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas sydd wedi dweud ei fod yn sicr o sefyll yn yr etholiad i’w olynu.

Mewn cynhadledd i’r wasg bore ma dywedodd Elin Jones, AC Ceredigion, ei bod hi’n ystyried sefyll, a dywedodd Simon Thomas, AC ar restr Canolbarth a Gorllewin Cymru, y byddai’n ystyried y peth yn y dyfodol.

Dywedodd nad oedd yn teimlo fod angen iddo wneud y penderfyniad eto.

Bwriad y gynhadledd i’r wasg oedd tynnu sylw at benderfyniad y Blaid Lafur i beidio penodi aelod o’r Cabinet i Faterion Gwledig.

Dywedodd yr ACau y byddai Plaid Cymru fel gwrthblaid yn sicrhau na fydd y blaid Lafur yn anwybyddu ardaloedd gwledig, yn benodol yn y gorllewin a’r gogledd.

Galwodd y blaid am “gydweithrediad buan” rhwng y Blaid Lafur a’r pleidiau gwrthbleidiol er mwyn sicrhau gweithredu eu rhaglen Lywodraethol yn y Cynulliad.

“Mae arwyddion buan gan y Blaid Lafur yn dangos na fydd ardaloedd gwledig ynl flaenoriaeth tra bod Plaid Cymru’r un mor ymrwymedig ag arfer i sicrhau cynrychiolaeth deg i holl ardaloedd Cymru,” meddai’r cyn-Weinidog Materion Gwledig, Elin Jones.

“Fel gwrthblaid, bydd Plaid Cymru yn gweithio yn galed er mwyn sicrhau bydd y Blaid Lafur methu llwyddo gydag unrhyw gynlluniau sydd ddim yn gwasanaethu pennaf les yn holl ardaloedd Cymru.

“Mae Plaid Cymru wedi arddangos mai dyma oedd un o brif werthoedd y Blaid yn y Llywodraeth, felly fel gwrthblaid gyfrifol ac adeiladol yma, byddwn yn parhau i ddilyn yr un gwerthoedd.”