Richard Burton
Mae Aelod Cynulliad wedi galw am godi cofeb barhaol i’r actor enwog Richard Burton, fu farw yn 1984.

Dywedodd yr AC ar restr ranbarthol Gorllewin De Cymru, Peter Black, y dylid gosod ryw fath o gofeb barhaol iddo ger Port Talbot lle y cafodd yr actor ei fagu.

Cafodd Richard Burton ei enwebu saith gwaith am Oscar, gan ymddangos mewn ffilmiau enwog gan gynnwys Cleopatra.

Roedd hefyd yn enwog am ei berthynas terfysglyd gyda’r actores Elizabeth Taylor.

“Cafodd Burton ei eni ym Mhont-rhyd-y-fen, sy’n rhan brydferth iawn o dde Cymru,” meddai Peter Black.

“Mae’r ardal eisoes yn denu twristiaid ac rydw i’n credu y byddai arddangosfa barhaol naill ai ym Mhont-rhyd-y-fen neu ym Mhort Talbot ei hun yn denu llawer iawn o bobol sydd gyda diddordeb yn Richard Burton.

“Yn Abertawe mae cartref Dylan Thomas bellach yn atynfa twristiaid sy’n dathlu ei fywyd. Mae yna hefyd arddangosfa barhaol yng Nghanolfan Dylan Thomas, ac amgueddfa yn Nhalacharn.

“Does yna ddim byd, dim hyd yn oed blac glas, lle y cafodd Richard Burton ei eni. Mae angen newid hynny cyn gynted a bo modd.

“Rydw i ar ddeall fod gan y teulu Burton lawer iawn o ddeunydd fyddai modd ei gadw yn barhaol mewn amgueddfa er cof amdano.

“Byddai modd cysylltu cofeb Richard Burton gyda rhai pobol enwog eraill o dde Cymru, gan gynnwys Dylan Thomas.

“Fe fydda i yn cysylltu â chyngor Castell-nedd Port Talbot a’r Gweinidog Treftadaeth er mwyn sicrhau fod Richard Burton yn cael y sylw mae’n ei haeddu.”