Y Cae Ras (Llun o wefan Clwb Wrecsam)
Mae perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi cytuno i’w werthu i gyn-gyfarwyddwr masnachol y clwb, Jon Harris.

Wrth gadarnhau’r cytundeb, dywedodd un o’r perchnogion, Geoff Moss, mai Jon Harris yw rheolwr cyfarwyddwr newydd y clwb.

Roedd Geoff Moss ac Ian Roberts wedi gwrthod cynigion gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn ogystal â’r dyn busnes Stephen Cleeve.

“Roedd yr ymddiriedolaeth wedi methu a darparu sicrwydd fod ganddyn nhw’r arian i gyllido’r clwb yn y tymor canolig i hir dymor yn ogystal â’u profiad i redeg clwb pêl droed proffesiynol,” meddai’r perchnogion mewn datganiad.

Dywedodd y perchnogion fod brwdfrydedd yr ymddiriedolaeth wedi gwneud argraff arnyn nhw, ond roedden nhw’n credu bod angen “arweiniad profiadol a chryf”.

Mae cynnig Jon Harris wedi ei ariannu gan y dyn busnes Colin Poole ac mae rheolwr cyfarwyddwr nerwydd y clwb wedi galw ar gefnogwyr Wrecsam i roi cyfle iddynt brofi eu hymroddiad tuag at Wrecsam.

Mae Jon Harris wedi cadarnhau na fydd y Cae Ras na Colliers Park yn cael eu hail-ddatblygu yn dilyn sïon mae dyna fyddai ei fwriad.

Mae’n gobeithio sicrhau fod y canolfan rhagoriaeth yn cael ei gadw ar agor.

Saunders i aros

Mae’r clwb wedi cadarnhau bod y rheolwr Dean Saunders wedi cytuno arwyddo cytundeb newydd ac mae wedi cadarnhau fod yna gyllid ar gael er mwyn sicrhau bod y Dreigiau yn gystadleuol y tymor nesaf.

“Yn realistig fe fydd yna rai clybiau yn yr adran gyda mwy o gyllid ‘na ni. Os os bydd pawb o fewn y clwb yn cyd-weithio fe allen ni lwyddo,” meddai Dean Saunders.

“Rydw i wedi cyfarfod â  Jon Harris a Colin Poole ac yn argyhoeddedig bod y clwb mewn dwylo diogel.

“Mae’r ddau ohonynt yn brofiadol iawn, yn deall pêl droed, a’r hyn sydd ei angen er mwyn rhedeg clwb llwyddiannus.”

‘Siomedig’

Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi nodi eu siom ar ôl methu a phrynu’r clwb.

“R’yn ni’n credu bod ein cynnig ni wedi bod er lles y dref ac wedi plesio’r cefnogwyr, y wasg a gwleidyddion lleol,” meddai’r ymddiriedolaeth mewn datganiad.

Mae’r ymddiriedolaeth wedi galw ar gefnogwyr i fod yn bresennol yn y cyfarfod sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Glyndŵr nos yfory er mwyn lleisio eu barn ynglŷn â gwerthiant y clwb.