Alwminiwn Môn
Mae gobaith am 600 o swyddi ar hen safle gwaith alwminiwm Môn heddiw, bron i ddwy flynedd wedi i’r cwmni mwyndoddi gyhoeddi 400 o ddiswyddiadau.

Daeth y cyhoeddiad heddiw fod y cwmni sy’n berchen ar safle’r gwaith ger Caergybi wedi dod i gytundeb â Land and Lakes Cyf i ddatblygu peth o’r tir yn gyrchfan gwyliau o safon ryngwladol.

Mae Alwminiwm Môn, sy’n eiddo i gwmniau mwyngloddio Rio Tinto a Keiser Aluminium, wedi dechrau ar y gwaith o ddad-gomisiynnu’r safle ers Medi 2010, ar ôl diswyddo 400 o staff yn 2009.

Roedd y cyhoeddiad ynghylch dad-gomisiynnu yn ergyd fawr i’r gobeithion lleol y byddai’n bosib ail-afael yn y gwaith yn y dyfodol.

Ond heddiw, dywedodd Arweinydd newydd Cyngor Ynys Môn, Bryan Owen, fod y cyhoeddiad “yn newyddion gwych i’r Ynys, gyda’r potensial i greu buddsoddiad mawr er lles dyfodol tymor hir yr economi”.

Wedi ‘cydweithio â’r Awdurdod’

Daw’r cyhoeddiad wedi blwyddyn a hanner o gyd-weithio rhwng Cyngor Môn Llywodraeth Cymru ac Alwminiwm Môn i geisio dod â swyddi yn ôl i’r hen safle diwydiannol.

“Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae’r Awdurdod wedi bod yn cyd-weithio’n barhaol gydag Alwminiwm Môn,” meddai Alex Aldridge, un o’r Comisiynwyr sy’n gyfrifol am arolygu gwaith cyngor sir yr ynys.

“Mae Môn eisioes yn adnabyddus fel cyrchfan ar gyfer twristiaid,” meddai, “byddai datblygiad safonol o’r natur yma yn ychwanegu’n fawr i’r hyn sydd gan yr Ynys i’w gynnig o ran twristiaeth.”

Carchar

Roedd dyfalu wedi bod y byddai’r safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith biomas newydd, neu yn safle ar gyfer carchar newydd ar yr ynys.

Mae disgwyl y bydd y cais cynllunio ar gyfer y datblygiad yn cael ei gyflwyno o fewn y 12 mis nesaf.