Andrew RT Davies
Fe fydd y cyfle i enwebu arweinydd nesaf y Ceidwadwyr Cymreig yn dod i ben brynhawn heddiw, am 5pm.

Mae Aelod Cynulliad Sir Fynwy, Nick Ramsay, wedi datgan y bydd yn sefyll.

Brynhawn heddiw cyhoeddodd un arall o’r ymegeiswyr posib, Darren Millar, y byddai’n cefnogi Andrew RT Davies am y swydd.

Mae’r Ceidwadwyr yn edrych am arweinydd newydd ar ôl i’r cyn-Aelod Cynulliad, Nick Bourne, golli ei sedd yn y Senedd yn Etholiadau’r Cynulliad ddechrau’r mis.

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael £40,000 ar ben ei gyflog blynyddol o £53,852 am fod yn Aelod Cynulliad.

Dywedodd arweinydd dros dro’r Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, na fydd yn gwneud cais i arwain y blaid yn yr hir dymor.

Mae angen cefnogaeth tri Aelod Cynulliad Ceidwadol arall ar bob un o’r darpar ymgeiswyr.

Dim ond dau ymgeisydd fydd yn cael sefyll, felly os oes mwy na dau ymgeisydd bydd rhaid i’r ACau ddewis rhyngddyn nhw.

Bydd aelodau’r blaid wedi dewis enillydd erbyn canol mis Gorffennaf.

Mewn cyfweliad dros y penwythnos, dywedodd Nick Ramsay y gallai’r blaid fynd “am yn ôl” dan ofal ymgeisydd arall.

Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr Cymreig gyhoeddi pwy yw’r ymgeiswyr yfory.