Cheryl Gillan
Fe fydd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn wynebu rhagor o gwestiynau gan arweinwyr busnes yn ne Cymru ynglŷn â’r penderfyniad i drydaneiddio’r rheilffordd o Lundain i Gaerdydd.

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddwn nhw’n bwrw ymlaen â’r cynllun £1 biliwn fydd yn torri 20 munud oddi ar y siwrneiau rhwng y ddwy brifddinas.

Ond bydd rhai i drenau fydd yn teithio y tu hwnt i Gaerdydd redeg ar ddisel.

Mae’r llywodraeth yn mynnu na fyddai trydaneiddio’r rheilffordd hyd at Abertawe yn arbed amser i deithwyr.

Mae’r penderfyniad wedi cythruddo rhag arweinwyr busnes yn ail ddinas fwyaf Cymru, sydd wedi dioddef yn sgil yr argyfwng ariannol.

Maen nhw’n gobeithio holi Cheryl Gillan am iechyd economi Cymru a’r toriadau ariannol pan fydd hi’n wynebu Clwb Busnes Abertawe ym mis Mehefin.

“Mae Cheryl Gillan wedi bod ar reng flaen gwleidyddiaeth Prydain ers bron i 20 mlynedd, felly mae ganddi lawer iawn o brofiad,” meddai llywydd y clwb, Spencer Feeney.

“Rydyn ni’n siŵr y bydd yna lawer iawn o alw i gael gwybod barn un o wleidyddion mwyaf blaenllaw Cymru ar adeg bwysig iawn i ddyfodol gwleidyddol ac economaidd y wlad.”

Fe fydd Cheryl Gillan yn siarad o flaen Clwb Busnes Abertawe yn y Village Hotel ar 17 Mehefin.

Mae disgwyl i’r gwaith o drydaneiddio’r rheilffordd o Gaerdydd i Lundain gael ei gwblhau yn 2017.