Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Mae pleidleiswyr eisiau i Ieuan Wyn Jones aros yn arweinydd ar Blaid Cymru, yn ôl pôl piniwn a gyhoeddwyd heddiw.

Yn ôl yr arolwg gan S4C/YouGov roedd y mwyafrif llethol a holwyd eisiau i’r arweinydd, a gyhoeddodd ddydd Gwener y byddai’n camu o’r neilltu, ddal ati.

Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi’n llawn ar Hacio am 9.30pm heno.

Roedd 39% yn credu y dylai aros yn ei swydd, a 21% eisiau iddo roi’r gorau iddi. Doedd 40% heb benderfynu.

Cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones ddydd Gwener y byddai’n rhoi’r gorau iddi hanner ffordd drwy dymor pum mlynedd y Senedd.

Cyn-arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Elis-Thomas, yw’r unig un sydd wedi rhoi ei enw ymlaen i’w olynu hyd yn hyn.

Mae Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Rhodri Glyn Thomas, wedi dweud na ddylai’r blaid frysio i ddisodli Ieuan Wyn Jones.

“Y peth cyntaf sydd angen ei ddatrys ydi lle’r mae’r blaid arni, ac mae ethol arweinydd newydd yn eilradd i hynny,” meddai.

Arweinwyr eraill

Roedd yr arolwg hefyd wedi holi a ddylai arweinwyr y pleidiau eraill barhau yn eu swyddi neu roi’r ffidil yn y to.

Roedd 19% yn galw ar Kirsty Williams i roi’r gorau i arwain y Democratiaid Rhyddfrydol, tra bod 38% eisiau iddi aros.

Dim ond 9% oedd eisiau gweld cefn Carwyn Jones, tra bod 66% eisiau ei gadw yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes yn chwilio am arweinydd newydd, ar ôl i’r cyn-arweinydd Nick Bourne golli ei sedd yn Etholiadau’r Cynulliad ddechrau’r mis.