Mae mudiad sy’n gwrthwynebu cynlluniau’r cyn-weinidog amaeth i ddifa moch daear wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn apelio ar i’r Llywodraeth newydd newid y  polisi.

“Mae’n amlwg fod llawer o bobol wedi pleidleisio dros newid,” meddai Celia Thomas, cadeirydd Atal y Cwlio Sir Benfro, wrth longyfarch Carwyn Jones a’r blaid Lafur ar eu llwyddiant yn yr etholiad.

“Mae Elin Jones eisoes wedi cyfaddef fod Plaid Cymru wedi colli llawer o bleidleisiau oherwydd ei safiad dadleuol ar ddifa moch daear a TB mewn gwartheg.”

Mae’n pwyso ar y Prif Weinidog i ohirio penderfyniad a wnaed gan y llywodraeth flaenorol i ddechrau ar raglen o ddifa moch daear o ddiwedd y mis yma ymlaen.

Herio yn y llysoedd

Mae hefyd yn atgoffa Carwyn Jones y gallen nhw herio’r Gorchymyn difa yn y llysoedd.

“Mae er budd pawb ein bod ni’n setlo’r mater yma heb fod angen achos llys,” meddai.

Mae’n tynnu sylw hefyd at addewid ym maniffesto Llafur Cymru i “fabwysiadu dull gwyddonol i asesu ac adolygu’r ffordd orau o fynd i’r afael â TB mewn gwartheg”.

“Gobeithiwn y gallwch ein sicrhau y bydd y llywodraeth newydd o leiaf yn oedi am ychydig wrth adolygu’r sefyllfa,” meddai Celia Thomas.