Mae’r gwasanaeth newyddion Cymraeg dyddiol Golwg360.com, yn dathlu ei ail ben-blwydd heddiw gyda newyddion da o ran darllenwyr a hysbysebwyr.

–          Erbyn hyn mae’r gwasanaeth yn rheolaidd yn denu mwy na 7000 o ymweliadau pob dydd

–          Mae pob hysbyseb ar y wefan yn cael ei gweld ar gyfartaledd rhwng 80,000 a 90,000 o weithiau bob mis.

–          Yn ystod y mis diwethaf mae mwy na miliwn o dudalennau wedi cael eu darllen ar y wefan

“Mae ein ffigurau defnyddwyr diweddaraf yn dangos bod y gwasanaeth yn llwyddo,” meddai Prif Weithredwr Golwg360.com, Owain Schiavone.

“Mae’r gwasanaeth wedi tyfu mewn poblogrwydd yn gyson dros y ddwy flynedd ers ei lansio. Ers i ni ailwampio’r wefan ym mis Chwefror mae’r twf mewn poblogrwydd wedi cyflymu eto ac mae’r gynulleidfa’n dal i dyfu.”

Straeon

Golwg360.com yw’r unig wasanaeth newyddion ar-lein cyflawn yn Gymraeg sy’n cynnwys straeon Cymreig, Prydeinig a Rhyngwladol. Mae’n cyhoeddi degau o straeon bob dydd, saith niwrnod yr wythnos.

Cafodd y gwasanaeth, sy’n cael ei gefnogi gan Gyngor Llyfrau Cymru, ei lansio ym Mai 2009 ac mae wedi datblygu a thyfu’n helaeth ers hynny.

Yn ddiweddar fel lansiodd y gwasanaeth ei adran swyddi newydd, tra bod cyfle grwpiau a chymdeithasau greu safle o fewn adran Lle Pawb i hyrwyddo eu newyddion diweddaraf – a hynny’n rhad ac am ddim.

“Rydym yn edrych am bob cyfle i ddatblygu elfennau newydd i’r gwasanaeth a bydd nifer o bethau newydd yn ymddangos dros y misoedd nesaf,” meddai Owain Schiavone.

“Erbyn hyn mae’n glir bod Golwg360.com yn cynnig llwyfan ardderchog i fusnesau ac unrhyw un sydd am hysbysebu i siaradwyr Cymraeg.”