Dafydd Elis-Thomas
Enw Dafydd Elis-Thomas yw’r cynta’ i gael ei gynnig yn y ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru.
Fe benderfynodd pwyllgor ei etholaeth, Dwyfor Meirionnydd, y bydden nhw’n enwebu cyn Lywydd y Cynulliad ar ôl i’r arweinydd presennol, Ieuan Wyn Jones, gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo o fewn y ddwy flynedd a hanner nesa’.
Ond mae un arall o hen bennau’r Blaid wedi rhoi rhybudd rhag rhuthro gan ddweud bod angen rhoi amser a chynnal ymchwiliad i ganlyniadau siomedig y blaid yn yr etholiad.
Ac, wrth siarad ar Radio Wales, fe ddywedodd y cyn AC ac AS, Cynog Dafis, bod eisiau rhoi cyfle i “genhedlaeth newydd” o wleidyddion.
O fewn oriau
Roedd Dafydd Elis-Thomas – sydd hefyd â sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi – wedi gwneud yn glir ddoe y byddai’n fodlon cael ei enwebu, o fewn oriau i gyhoeddiad Ieuan Wyn Jones.
Mae rhai sylwebwyr yn gweld y cyhoeddiad yn ymdrech i geisio prysuro pethau cyn etholiadau’r cynghorau sir y flwyddyn nesa’.
Fe ddywedodd y pwyllgor etholaeth neithiwr eu bod nhw eisiau gornest o fewn blwyddyn ac fe allai ras gyflym fod yn fanteisiol i Dafydd Elis-Thomas, cyn i wleidyddion iau ddod yn amlwg.
Ond, wedi’r cyfarfod, fe ddywedodd AC Dwyfor Meirionnydd ei fod eisiau dechrau trafodaeth ar “safleoliad y Blaid” – ei chyfeiriad at y dyfodol.