Carl Sargeant
Mae’n rhaid i gynghorau sir Cymru godi eu gêm a chynnig mwy o wasanaethau gyda llai o arian.

Dyna neges blaen Carl Sargeant yn dilyn ei ail-benodi yn Weinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau y bore yma

“Mae’n rhaid bod yn barod i newid a delifro gwasanaethau gwell i’r cyhoedd, efo llai o bres. O’n i yn gyrru’r neges yna cyn yr etholiad, a mi fyddai’n gyrru’n neges yn fwy caled rwan ar ôl yr etholiad.”

Mae Carl Sargeant eisoes wedi cyflwyno Mesur Llywodraeth Leol sy’n golygu bod Llywodraeth Cymru yn gallu gorfodi cynghorau sir i rannu gwasanaethau.

Yn ôl y Gweinidog mae angen mwy o gydweithio rhwng y cynghorau er mwyn delio gyda’r torriadau sydd yn wynebu Cymru. 

“ Mae pobl yn poeni am swyddi a’r ffordd mae’r sector gyhoeddus yn gweithio. Dyna pam dw i wedi dweud wrth llywodraeth leol: ‘Edrychwch ar y ffordd ryda chi’n gwneud busnes’. Os  gallwn ni ddatblygu system rhwng awdurdodau, ar draws ffiniau, fe fydd hynny yn ffordd o arbed arian ac yn golygu mwy o incwm ar gyfer swyddi.”