Rhodri Glyn Thomas
 
Mae cyn-Weinidog Diwylliant yn poeni am y defnydd o’r Gymraeg yn Siambr y Cynulliad, rwan fod gan y sefydliad Lywydd a Dirprwy Lywydd di-Gymraeg.

Mae’r AC Rhodri Glyn Thomas yn credu ei bod yn anorfod y bydd llai o Gymraeg yn cael ei siarad yn y Siambr yn dilyn ethol Rosemary Butler yn Lywydd a David Melding yn Ddirprwy iddi.

“Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi bod ar flaen y gad o ran dwyieithrwydd, a iawn oedd hynny,” meddai’r AC Plaid Cymru wrth bapur newydd y Tivy Side.

“Fodd bynnag, credaf ei bod yn anorfod y bydd y defnydd o’r iaith Gymraeg yn crebachu yn Siambr y Cynulliad wrth i’r trafodaethau gael eu cadeirio trwy gyfrwng y Saesneg.

“Mae’n hollbwysig bod Aelodau’r Cynulliad sy’n medru siarad yr iaith Gymraeg yn gwneud hynny, er mwyn sicrhau bod yr iaith wrth galon ein democratiaeth.

“Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno deddfrwiaeth i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg mewn nifer eang o wasanaethau. Mi fydda hi’n biti garw pe bai’r sefydliad wnaeth gyflwyno’r ddeddfwriaeth yn methu arwain a’i roi ar waith.”

Cwymp yn nefnydd y Gymraeg

Yn ôl ystadegau’r Cynulliad ei hun, mae cwymp yn y defnydd o’r iaith Gymraeg ar lawr y Siambr dros y blynyddoedd.

Yn 2004/05 roedd 2.3% o’r cwestiynau llafar yn cael eu gofyn drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg – erbyn 2009/10 roedd y ganran wedi syrthio i 0.5%.

Bu cwymp gwaeth dros yr un cyfnod o ran canran y cwestiynau ysgrifenedig yn Gymraeg, lawr o 2.4 i 0.1%.

O’r aelodau oedd yn medru siarad Cymraeg, roedd 24% o’r rheini wedi gofyn o leia’ un cwestiwn yn Gymraeg yn 2004/05 – dim ond 9.1% oedd yn holi’n Gymraeg erbyn 2009/10.