Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal noson gomedi yn ystod wythnos y ‘Steddfod Genedlaethol eleni, yn ogystal â’r gigs arferol.

Mi fyddan nhw’n lansio’r arlwy yn Wrecsam o gwmpas amser cinio.

Y newyddion mawr yw bod Bryn Fôn a’r band yn chwarae i’r Gymdeithas ar y nos Fawrth, ond ddim yn chwarae ar y Sadwrn ola’ ym Maes B yn ôl yr arfer.

Ar y nos Lun mi fydd criw rhaglen deledu Ddoe am Ddeg yn arwain sesiwn gomedi i’r Gymdeithas,  fydd yn cynnwys perfformiad gan Dyfed Thomas fel y Dr Hywel Ffiaidd.

Bydd y nosweithiau yn cael eu cynnal yn yr Orsaf Ganolog, ac ar y Sul cynta’ bydd cyfle i weld ffilm Separado! Gruff Rhys.

Dyma’r amserlen lawn:

Nos Sul: Ffilm: Separado, ymddangosiad byw a chaneuon gan Rene Griffiths a Pictiwrs yn y Pub

Llun: Noson gomedi a Dr Hywel Ffiaid

Mawrth: Bryn Fôn a’r Band, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Al Lewis Band, Y Saethau, Ryan Kift  

Mercher: Maffia Mr Huws, Heather Jones Gai Toms, Jen Jeniro, Ian Rush

Iau: Mr Huw, Twmffat, Llwybr Llaethog, Crash.Disco!, Dau Cefn, Llyr PSI

Gwener: Meic Stevens, Tecwyn Ifan, Gwilym Morus, Lleuwen, Sen Segur, Tom ap Dan, Carlos Jesus Morales o Chile

Sadwrn: Bob Delyn a’r Ebillion a Geraint Lovgreen, ac ymladd Kung-Fu a Tai-Kwondo