y Cynghorydd Dyfrig Jones
 Mae un o gynhorwyr Plaid Cymru Gwynedd wedi derbyn neges destun “lled-fygythiol” heddiw, ddiwrnod ar ôl iddo fotio i gau Ysgol y Parc ger y Bala.

 Mi gafodd y Cynghorydd Dyfrig Jones ddau neges destun ddoe yn siambr y cyngor, ac un arall heddiw yn dweud: ‘Friday the 13th???’

 Mae wedi tynnu sylw at y negeseuon ar ei gyfrif twitter: ‘Wedi derbyn neges destun anhysbus, lled-fygythiol heddiw. A dwy ddoe, yn ystod cyfarfod y Cyngor’.

 “Roedd yn amlwg o’r tecsts ddoe bod pwy bynnag oedd yn tecstio, yn y Siambr,” meddai Dyfrig Jones, sy’n cynrychioli Ward Gerlan ar Gyngor Gwynedd.

 Mae’r dadlau dros ddyfodol Ysgol y Parc wedi bod yn hir a chwerw, ac roedd cefnogwyr yr ysgol yn yr oriel gyhoeddus yn siambr y cyngor sir ddoe i wrando ar y cynghorwyr yn trafod ei dyfodol.

“Roedd ymddygiad rhai o’r bobl yn yr oriel ddoe yn hollol hollol warthus,” meddai Dyfrig Jones.

“Roedd pethau personol iawn iawn yn cael eu dweud, nid wrtha i, ond roeddan nhw’n dweud pethau hyll iawn iawn wrth rai cynghorwyr.”

 Tecstio yn y siambr

 Mae rhif ffôn symudol Dyfrig Jones ar wefan Cyngor Gwynedd, a ddoe daeth y neges destun cynta’ i’w ffôn  tra’r oedd yn gwrando ar gyflwyniad.

“Roedd y neges cynta’ yn dweud: ‘Gwranda’n astud’. Wedyn ar ôl i mi siarad, daeth ail neges yn dweud: ‘Go lew’,” meddai.

 Y bore yma cafodd y trydydd neges “lled-fygythiol”, a phan wnaeth Dyfrig Jones ffonio’r rhif mi wnaeth y person ar ben arall y lein ddiffodd ei ffôn.

“Mae neges heddiw yn fwy sinistr,” meddai Dyfrig Jones, sy’n dad i ddau o blant.

“Dw i’n teimlo bod y negeseuon dipyn bach yn annifyr, ond tydyn nhw ddim yn dweud: ‘Dw i’n mynd i dy ladd di’ na dim byd felly.”

Diweddariad:

Mae un o gynghorwyr Llais Gwynedd wedi cysylltu gyda Golwg360 i ddweud fod pawb wedi ymddwyn yn gall yn ystod y drafodaeth ar ddyfodol Ysgol y Parc.

“Mi wnaeth y Cadeirydd ddweud wrtha i pa mor dda yr oedd pawb wedi byhafio,” meddai’r Cynghorydd Peter Reid o Lais Gwynedd.

“Doedd neb yn dweud pethau personol…yr unig un wnaeth ddweud rhywbeth gwirion ddoe oedd Dyfrig Jones, pan ddywedodd o nad ydy cau ysgol yn gwneud unrhyw wahaniaeth i gymuned.”