Siân Miriam
 
Fe fydd cân newydd y ferch 17 oed wnaeth ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau ar Radio Cymru, yn sôn am fodryb oedd yn Japan adeg y tsunami.

Ers ennill y wobr yr wythnos ddiwethaf, mae wrthi’n cyfansoddi cân am tsunami Japan – ar ôl poeni am les teulu sy’n byw yn y wlad ers y drychineb. Mae Rhian Yoshikawa, Cymraes sy’n byw yn Japan ac sydd wedi siarad gyda Golwg360 am ei phrofiadau yn ystod y tsunami, yn fodryb i Siân Miriam.

“Dw i’n meddwl i mi, mai pwrpas sgwennu cân yw trosglwyddo neges – son am beth sy’n digwydd. Os dw i’n teimlo emosiwn, mae’n hawdd sgwennu cân,” meddai.

“Dw i’n cofio codi’n gynnar a theimlo’n sâl ar ôl clywed am y tsunami yn Japan. Doeddwn i’n methu canolbwyntio ar ddim byd. 

“Yn y gân, dw i am gael yr ochr drist, anobeithiol o beidio gwybod beth sy’n digwydd ac yna’r gobaith o wybod fod perthnasau’n saff,” meddai.

Canu am bynciau dyrys bywyd

Eisiau “codi cwestiynau” am ryfel oedd enillydd Brwydr y Bandiau Menter Iaith Cymru a BBC Radio Cymru 2011, gyda’i chân fuddugol ‘Beth yw ystyr rhyfel?’

Er nad oes aelod o deulu Siân Miriam wedi mynd i’r fyddin – mae rhai o’i ffrindiau a’u ffrindiau nhw wedi ymuno, meddai.

“Dw i yn yr oed lle mae yna lot o hogiau a merched yn mynd i’r fyddin ac yn peryglu’i bywydau yn y rhyfel,” meddai Siân Miriam sy’n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Llangefni, Sir Fôn.

“Roedd o’n gyfle i gwestiynu – pam eu bod nhw’n mynd? I bwysleisio beth yw rhyfel.

“Dw i’n cofio gofyn i fam pan oeddwn i’n fach – beth oedd y busnes rhyfel yma? Mae’n rhaid cwestiynu’r pethe yma a gwerthfawrogi bywyd,” meddai.

“Cerdd a drama yw fy mywyd…”

Mae Siân Miriam yn astudio pedwar pwnc yn ei blwyddyn gyntaf lefel ‘A’ gan gynnwys Cerdd, Cymraeg, Saesneg a Drama. Mae’n gobeithio gweithio ym myd y celfyddydau ar ôl bod i’r Brifysgol.

“Cerdd a Drama yw fy mywyd… dw i’n hoffi cyffwrdd pobl,” meddai.

Fel rhan o’i gwobr fe fydd Siân Miriam, 17 oed o Langristiolus, yn cael cyfleoedd i berfformio mewn digwyddiadau cerddorol amrywiol a recordio sesiwn i C2 BBC Radio Cymru.

Fe ddisgrifiodd ennill y gystadleuaeth fel “noson gorau ei bywyd” a “phrofiad anhygoel”.