Mae cynghorwyr Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cau Ysgol y Parc, gan ddweud y bydd yn arbed £70,000 y flwyddyn.

Roedd Cymdeithas yr Iaith a rhieni o’r ardal wedi gwrthwynebu’r cynllun i ad-drefnu addysg yn ardal y Bala.

Dywedodd un o’r ymgyrchwyr, Ffred Ffransis, y dylid creu ffederasiwn o ysgolion yn yr ardal fyddai’n golygu eu bod nhw’n rhannu adnoddau. Ar hyn o bryd mae 19 o ddisgyblion yn mynychu Ysgol y Parc.

Roedd wedi ymprydio am 50 awr heb fwyd na dŵr cyn dechrau’r cyfarfod yng Nghaernarfon am 1pm heddiw er mwyn tynnu sylw at yr achos.

Y nod oedd dangos fod perygl gwirioneddol i fywyd y gymuned wledig Gymraeg yn ardal Ysgol y Parc, meddai.

Bydd yr ysgol yn cau erbyn mis Medi’r flwyddyn nesaf a’r plant yn cael eu symud i Ysgol O.M. Edwards, Llanuwchllyn, sydd wedi ei leoli tair milltir i ffwrdd.

Dywedodd Cyngor Gwynedd fod y penderfyniad yn dilyn cyfnod o drafodaeth fanwl yn y dalgylch ynghyd ag ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd yn ystod mis Ionawr a Chwefror.

Yn ogystal â chau Ysgol y Parc, pleidleisiodd cynghorwyr o blaid sefydlu Campws Dysgu Gydol Oes yn nhref Y Bala i gymryd lle Ysgolion y Berwyn, Beuno Sant a Bro Tegid yn y dref, yn ogystal ag uwchraddio Ysgol O M Edwards a buddsoddi yn Ysgolion Ffridd y Llyn a Bro Tryweryn.

‘Buddugoliaeth’

Cyn torri ei ympryd roedd Ffred Ffransis wedi dweud wrth bobl o’r Parc: “Yr ydych chi eisoes wedi ennill buddugoliaeth trwy eich ffyddlondeb i ddyfodol eich ysgol a’ch cymuned Gymraeg ac i addysg y plant”.

“Bu cysgod dros ddyfodol yr ysgol ers pedair blynedd, ac eto nid ydych wedi digalonni. Rydych chi wedi aros yn ffyddlon ac wedi mynnu dyfodol i’ch cymuned heb ganiatáu i unrhyw siom eich rhwystro, a dyma eich buddugoliaeth a’ch sicrwydd at y dyfodol.

“Mae’n fuddugoliaeth na all unrhyw Gyngor ei gymryd oddi wrthych chi.”

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno cais i Lywodraeth y Cynulliad am £7.7 miliwn tuag at gynllun £10.2 miliwn ar gyfer adrefnu ysgolion dalgylch y Berwyn. Mae’r Cyngor yn disgwyl ymateb gan Lywodraeth y Cynulliad yn ystod haf 2011.