Dafydd Elis-Thomas
Bod mewn llywodraeth yw lle Plaid Cymru, nid ar y cyrion yn cwyno am lywodraethu pobol eraill, meddai’r cyn-Lywydd Dafydd Elis-Thomas.

Dywedodd wrth Golwg 360 fod rhai o gefnogwyr y blaid wedi camddeall beth oedd Plaid Cymru yn ei gynrychioli.

“Mae gen i ofn bod lot o bleidleiswyr Plaid Cymru yn y gorffennol wedi meddwl mai rhyw fath o grŵp pwyso oedden ni,” meddai.

“Roeddech chi yn gallu eu hethol i gwyno dros Gymru, fel whingers Cymreig proffesiynol.

“Wel nid dyna yw ein rôl ni. Ein rôl ni yw bod mewn llywodraeth yn ein gwlad ein hunain, i newid a gwella amgylchiadau pobol y wlad.”

Arweinydd

Dywedodd Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionydd nad oedd yn meddwl y dylai’r Blaid ddisodli ei harweinydd, Ieuan Wyn Jones.

Enillodd Plaid Cymru bedair sedd yn llai yn Etholiadau’r Cynulliad wythnos yn ôl, a cholli ACau dylanwadol gan gynnwys Helen Mary Jones, Nerys Evans, a Dr Dai Lloyd.

“Mae’n fater o gyfeiriad a chenhadaeth ac esbonio yn glir i bobol beth yw ein bwriad ni,” meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

“Falle nad yw Plaid Cymru wedi esbonio yn ddigon clir i’w chefnogwyr ac i’w pleidleiswyr beth yw diben y Blaid yn ail ddegawd y ganrif hon trwy fod mewn llywodraeth a beth ydan ni yn ceisio ei gyflawni.”

Dywedodd ei fod yn feirniadol o’r modd yr aeth Plaid Cymru ati i ymosod ar y Blaid Lafur, gan ddweud y dylen nhw fod wedi treulio’r ymgyrch yn tynnu sylw at eu llwyddiannau mewn llywodraeth.

Mae hefyd yn teimlo nad oedd Plaid wedi datgan yn ddigon clir na fyddent eisiau clymbleidio gyda’r Ceidwadwyr.