Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Ni fydd Cabinet newydd llywodraeth Lafur y Cynulliad yn cael ei gyhoeddi nes yfory.

Roedd disgwyl cyhoeddiad heddiw ond mae wedi ei oedi. Dim ond un enw sy’n sicr – Carwyn Jones yw’r Prif Weinidog, ar ol i’w benodiad gael ei gymeradwyo yn swyddogol gan y Frenhines bore ma.

Decheruodd arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, gafodd ei enwebu i’r swydd ddoe,  ar y broses o benodi Cabinet newydd heddiw.

“Mae’n fraint cael gwasanaethu pobol Cymru a dechrau ar ein rhaglen uchelgeisiol er mwyn creu gwlad tecach a mwy llewyrchus yn yr amseroedd anodd yma,” meddai Carwyn Jones.

“Fe fyddaf i’n cyhoeddi fy Nghabinet cyn bo hir.”

Bydd rhaid iddo lenwi rhai swyddi cyn-weinidogion Plaid Cymru, gan gynnwys y Gweinidog Amaeth, y Gweinidog Treftadaeth, y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, a’r Dirprwy Weinidog Tai.

Enillodd y Blaid Lafur union hanner y seddi yn y Cynulliad yn yr etholiadau wythnos yn ôl ac mae arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru wedi dweud y bydd yn cydweithio gyda’r pleidiau eraill.

Etholwyd Rosemary Butler, AC Gorllewin Casnewydd, yn Llywydd y Cynulliad, gan olynu Dafydd Elis-Thomas oedd wedi cyflawni’r swydd ers 12 mlynedd.

Cafodd y Ceidwadwr David Melding, AC ar restr Canol De Cymru, ei ethol yn Ddirprwy-Lywydd.