Mae’r heddlu wedi arestio tri dyn mewn cysylltiad â marwolaeth llanc 16 oed oedd yn gaeth i heroin.
Daethpwyd o hyd i Kyle Bates yn farw yn ei gartref ar Stryd Villiers, Hafod, Abertawe, yn 2008.
Datgelodd ei gwest fod y llanc wedi bod yn defnyddio’r cyffur Dosbarth A am tua blwyddyn cyn iddo farw.
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi arestio dyn 32 oed a dwy ddynes, 39 a 53 oed, ar amheuaeth o ddynladdiad.
“O ganlyniad i wybodaeth newydd sydd wedi dod i’n meddiant ni, mae’r heddlu wedi arestio tri pherson mewn cysylltiad â marwolaeth Kyle,” meddai’r Ditectif Arolygydd, Peter Doyle.
“Hoffwn alw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud ag amgylchiadau marwolaeth Kyle i gysylltu ar fyrder.”
Fe fu farw Kyle Bates ar 29 Ionawr, 2008, ar ôl dal bronchopneumonia, sydd yn un o sgil effeithiau gorddos o forffin.
Yn dilyn y cwest ymddiheurodd Heddlu De Cymru a Chyngor Abertawe am gyfres o fethiannau – roedd Kyle Bates wedi bod mewn cysylltiad â nhw a sawl asiantaeth gofal.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am farwolaeth Kyle Bates ffonio’r heddlu ar 01792 456999 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.