Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru
Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi dweud y bydd hi’n ystyried cais gan Blaid Cymru i newid y modd y mae ACau yn cael eu hethol i’r Cynulliad.

Mae Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, wedi dweud fod angen ethol rhagor o ACau o’r rhestrau rhanbarthol.

Erbyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf fe fydd nifer etholaethau Cymru yn cael eu torri o 40 i 30.

Dywedodd Jonathan Edwards y dylid ethol 30 o Aelod Cynulliad o’r etholaethau yma, ac y dylai’r 30 arall ddod o’r rhestrau rhanbarthol.

‘Ffafrio Llafur’

Ar hyn o bryd mae 40 yn dod o’r etholaethau a 20 o’r rhestrau rhanbarthol. Yn ôl Jonathan Edwards mae’r trefniant yn ffafrio’r Blaid Lafur.

Derbyniodd y blaid 42.3% o’r bleidlais yn yr etholaethau a 36.9% o’r bleidlais ar y rhestrau rhanbarthol ddydd Iau, ond 50% o’r seddi yn y Cynulliad.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin dywedodd Cheryl Gillan ei bod hi’n “cymryd fod Mr Edwards yn argymell fod 30 sedd gyntaf i’r felin a 30 sedd ranbarthol, ac fe fyddaf i’n edrych o ddifrif ar yr argymhelliad hwnnw”.

Mae Jonathan Edwards hefyd wedi galw am ganiatáu i ymgeiswyr sefyll mewn etholaethau ac ar y rhestrau rhanbarthol.

Dywedodd gweinidog Swyddfa Cymru’r wrthblaid, Owen Smith, fod Plaid Cymru yn cwyno am nad oedd pethau wedi mynd o’u plaid nhw yn yr etholiad.