Tyrbinau gwynt
Bydd ffatri newydd sy’n creu tyrbinau gwynt yn agor yn ne Cymru heddiw gan greu 240 o swyddi.

Cwmni codi pontydd Mabey Bridge sydd wedi adeiladu’r ffatri £38 miliwn yng Nghas-gwent.

Nhw yw’r unig gwmni ym Mhrydain sy’n creu tyrbinau gwynt.

Dywedodd y cwmni eu bod nhw eisoes yn cynhyrchu’r tyrbinau ar y safle, ac y byddwn nhw’n gallu creu 300 bob blwyddyn.

Mae disgwyl i tua 600 o dyrbinau gwynt gael eu codi ym Mhrydain bob blwyddyn.

“Ni fydd rhaid i gwmnïau yn y wlad yma orfod mewnforio tyrbinau gwynt o wledydd eraill mwyach,” meddai Peter Lloyd, rheolwr gyfrwyddwr Mabey Bridge.

“Rydyn ni’n arbenigwyr ar adeiladu pontydd ac fe fyddwn ni’n gallu defnyddio’r sgiliau yna er mwyn darparu hanner tyrbinau gwynt Ynysoedd Prydain.”

Ar hyn o bryd maen nhw’n cynhyrchu naw tyrbin gwynt 80 metr ar gyfer cwmni REpower a fydd yn cael eu codi yn Swydd Efrog.

“Dyma’r union fath o fuddsoddiad sydd ei angen ym Mhrydain,” meddai’r Gweinidog Egni, Charles Hendry, wrth agor y safle.

“Mae’n arwydd gwych o hyder yn y sgiliau sydd ar gael ym Mhrydain a De Cymru yn benodol.

“Fe fydd yn creu swyddi gwyrdd, ac mae’n gam mawr ymlaen i’r diwydiant egni adnewyddadwy yng Nghymru.”