Keith Davies
Yn ôl Aelod Cynulliad newydd Llanelli, mae’r blaid Lafur wedi Cymreigeiddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dyna esboniad Keith Davies am ei araith ar noson y canlyniad wrth ei alw ei hun yn ‘sosialydd’, yn ‘genedlaetholwr’ ac yn ‘Gymro’, meddai.

“Fel roedd Carwyn yn gweud ar ddechrau’r ymgyrch, r’yn ni’n sefyll dros Gymru, cadw cornel Cymru wedodd e.

“Bydde arweinyddion y blaid Lafur yn y gorffennol ddim wedi gweud yr un peth? Falle se’n ni’n mynd nôl i Jim Griffiths, ond fuodd ‘na gyfnod falle oedd pobol yn gweld y blaid Lafur tamaid bach yn wrth-Gymreig. Dyw hwnna ddim yn bodoli rhagor,” meddai.

“Roedd pobol ar y stepen drws yn gweud wrthon ni beth oedd eu pryderon nhw, pryderon am swyddi, toriadau sy’n effeithio arnyn nhw fel teuluoedd.

“Ac wedyn wrth gwrs o le mae’r rheina wedi dod? Dod o Loegr, o Lundain. A beth mae’n rhaid i ni fel plaid Lafur wneud yw trio amddiffyn ein teuluoedd ni yng Nghymru.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 12 Mai