Ffred Ffransis (llun Cymdeithas yr Iaith)
Mae Cymdeithas yr Iaith yn hawlio fod ymgyrchwyr wedi “ennill buddugoliaeth” cyn clywed penderfyniad Cyngor Gwynedd ar gau Ysgol y Parc.

Bydd Cyngor Gwynedd yn cyfarfod am 1pm heddiw er mwyn penderfynu ffawd yr ysgol ger y Bala. Maen nhw’n credu y byddai cau’r ysgol yn arbed £70,000 bob blwyddyn.

Petai’r cyngor yn penderfynu bwrw ymlaen, bydd yr ysgol yn cau erbyn mis Medi’r flwyddyn nesaf a’r plant yn cael eu symud i Ysgol O.M. Edwards, Llanuwchllyn.

Bydd rhieni a chefnogwyr yn ymgynnull y tu allan i adeilad y cyngor yng Nghaernarfon am 1pm.

Yn eu mysg fydd Ffred Ffransis, sydd wedi bod yn ymprydio am 50 awr er mwyn gwrthwynebu’r cynllun, ac Angharad Tomos fydd yn dweud gair ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae’r Gymdeithas wedi galw am ffederaleiddio’r ysgolion lleol yn hytrach na chau Ysgol y Parc.

‘Cysgod’

Cyn torri ei ympryd bydd Ffred Ffransis yn dweud wrth bobl o’r Parc:“ Yr ydych chi eisoes wedi ennill buddugoliaeth trwy eich ffyddlondeb i ddyfodol eich ysgol a’ch cymuned Gymraeg ac i addysg y plant”.

“Bu cysgod dros ddyfodol yr ysgol ers pedair blynedd, ac eto nid ydych wedi digalonni. Rydych chi wedi aros yn ffyddlon ac wedi mynnu dyfodol i’ch cymuned heb ganiatáu i unrhyw siom eich rhwystro, a dyma eich buddugoliaeth a’ch sicrwydd at y dyfodol.

“Mae’n fuddugoliaeth na all unrhyw Gyngor ei gymryd oddi wrthych chi.

“Yn wir, rydyn ni heddiw, yn gwahodd Cyngor Gwynedd i fod yn rhan o’r fuddugoliaeth drwy ddatgan ei fod am gynnal a datblygu Ysgol y Parc fel rhan o’r datblygiadau cyffrous ar gyfer ardal y Bala.

“Nid buddugoliaeth dros unrhyw un yw eich buddugoliaeth chi, ond buddugoliaeth y mae gwahoddiad agored i bawb fod yn rhan ohoni gan eich bod yn ysbrydoli pawb ohonom i ymgyrchu dros ddyfodol ein cymunedau Cymraeg.”

Dywedodd y Gymdeithas na fydd “plant yr ysgol yn teithio i Gaernarfon heddiw gan fod rhieni’n teimlo eu bod dan straen wrth feddwl y gallai eu hysgol gau ac y byddai’r profiad yn ormod iddyn nhw”.