Collodd Helen Mary Jones ei sedd ddydd Iau
Mae un o gyn-aelodau Plaid Cymru, a ddenodd dros 2,000 o bleidleisiau yn etholaeth Llanelli, yn gwadu mai dyna’r rheswm i’r Blaid golli’r sedd o drwch blewyn.

Dim ond 80 pleidlais oedd yn gwahanu Llafur a Phlaid Cymru ar noson y cyfrif, a llawer yn dweud fod llwyddiant yr ymgeisydd annibynnol yn allweddol.

“Roedd Helen Mary yn anlwcus,” meddai Sian Caiach, cynghorydd sir fu’n aelod o Blaid Cymru am 30 o flynyddoedd cyn gadael dwy flynedd yn ôl.

“O ystyried yr holl adnoddau roddodd y Blaid Lafur i’r ymgyrch yn Llanelli, doedd gan Blaid Cymru ddim hawl bod mor agos iddyn nhw ar y noson.

“Y gwir yw bod gan Lafur fwy o arian na’r Blaid. Mae gan Lafur lawer mwy o bobol yn gweithio iddyn nhw, maen nhw wedi medru ymladd am y sedd yma am ddwy flynedd.

“Wrth gwrs mae Helen [Mary Jones] wedi bod yng Nghaerdydd, ac oherwydd ei gwaith yn Ddirprwy Arweinydd yn y Cynulliad, mae hi wedi bod fwy yng Nghaerdydd nag yn y pedair blynedd flaenorol.

“Roedd yr ymgeisydd Llafur yn ŵr wedi ymddeol roedd yn gallu mynd allan i ganfasio ers misoedd ar fisoedd.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 12 Mai